Amos 3

1Bobl Israel, gwrandwch ar neges yr Arglwydd yn eich erbyn chi. Chi, y bobl ddois i â nhw allan o wlad yr Aifft.

2“O blith holl bobloedd y ddaear,
chi ydy'r rhai wnes i ddewis –
a dyna pam mae'n rhaid i mi eich galw chi i gyfrif
am yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.”

Gwaith y Proffwyd

3Ydy dau berson yn gallu teithio gyda'i gilydd

heb fod wedi trefnu i gyfarfod?
4Ydy llew yn rhuo yn y goedwig
pan does ganddo ddim ysglyfaeth?
Ydy llew ifanc yn grwnian yn fodlon yn ei ffau
oni bai ei fod wedi dal rhywbeth?
5Ydy aderyn yn cael ei ddal mewn rhwyd
os nad oes abwyd yn y trap?
Ydy trap ar lawr yn cau yn sydyn
heb fod rhywbeth wedi ei ddal ynddo?
6Ydy pobl ddim yn dychryn yn y dre
wrth glywed y corn hwrdd
yn seinio fod ymosodiad?
Ydy dinistr yn gallu dod ar ddinas
heb i'r Arglwydd adael i'r peth ddigwydd?
7Dydy fy Meistr, yr Arglwydd, yn gwneud dim byd
heb ddangos ei gynllun i'w weision y proffwydi.
8Pan mae'r llew yn rhuo,
pwy sydd ddim yn ofni?
Mae fy Meistr, yr Arglwydd, wedi siarad,
felly pwy sy'n mynd i wrthod proffwydo?
9Cyhoedda hyn i'r rhai sy'n byw yn y plastai yn Ashdod
3:9 Ashdod Un o brif drefi y Philistiaid.

ac yn y plastai yng ngwlad yr Aifft!
Dywed: “Dewch at eich gilydd i ben bryniau Samaria
i weld yr anhrefn llwyr sydd yn y ddinas,
a'r gormes sy'n digwydd yno.
10Allan nhw ddim gwneud beth sy'n iawn!”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
“Yn eu plastai maen nhw'n storio trysorau
sydd wedi eu dwyn trwy drais.”

11Felly dyma mae fy Meistr, yr Arglwydd, yn ei ddweud:

“Bydd gelyn yn amgylchynu'r wlad!
Bydd yn rhwygo popeth oddi arni
ac yn ei gadael yn noeth.
Bydd ei chaerau amddiffynnol yn cael eu hysbeilio'n llwyr!”

12Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Fel bugail yn ‛achub‛ unrhyw beth o safn y llew
– dwy goes, neu ddarn o'r glust –
dyna'r math o ‛achub‛ fydd ar bobl Israel sy'n byw yn Samaria.
Dim ond coes y gwely neu gornel y fatras fydd ar ôl!
13Gwranda ar hyn, a rhybuddia bobl Jacob”

—fy Meistr, yr Arglwydd sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus—
14“Pan fydda i'n cosbi Israel am wrthryfela,
bydda i'n dinistrio'r allor sydd yn Bethel.
Bydd y cyrn ar gorneli'r allor
yn cael eu torri ac yn disgyn ar lawr. b
15Bydda i'n dymchwel eu tai, a'u tai haf nhw hefyd.
Bydd y tai oedd wedi eu haddurno ag ifori yn adfeilion.
Bydd y plastai yn cael eu chwalu'n llwyr!”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
Copyright information for CYM